Hawlio ad-daliad trethLlenwch ffurflen gais gan Gyllid a Thollau EM os ydych yn credu bod gennych hawl i dderbyn ad-daliad treth.
Bydd y dolenni isod yn eich arwain at y ffurflenni a chyfarwyddyd perthnasol am sut i hawlio ad-daliad treth neu Yswiriant Gwladol ar wefan Cyllid a Thollau EM. Os oes angen i chi lenwi ffurflen mae'n bwysig cyfeirio at y canllawiau yn gyntaf.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen a'r taflenni cysylltiedig. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.
Bydd rhaid i chi argraffu'r ffurflenni er mwyn eu llenwi.
Noder: Bydd y ffurflen P50 Hawlio treth yn ôl pan ydych wedi rhoi'r gorau i weithio, sydd ar gael o'r ail ddolen isod, yn berthnasol os ydych chi wedi rhoi’r gorau i weithio yn ystod y flwyddyn dreth, os nad ydych chi'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac os nad oes disgwyl i chi ddychwelyd i'r gwaith cyn dechrau'r flwyddyn dreth newydd (6 Ebrill).
Darparwyd gan HM Revenue and Customs