Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar gyfer gweithwyr cyflogedig

Rydych yn talu treth ar eich cyflog drwy system o'r enw Talu Wrth Ennill (PAYE). Mae'ch cyflogwr yn defnyddio'r system hon i dynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog cyn iddynt ei dalu i chi.

Cyflog gros a net

Eich 'cyflog gros' yw'r swm y byddwch yn ei ennill cyn y didynnir treth ohono. Eich 'cyflog net' yw'r swm a gewch ar ôl didynnu treth ac Yswiriant Gwladol ohono. Pan gewch slip cyflog, fe welwch:

  • y cyflog gros yr ydych wedi'i ennill, gan gynnwys unrhyw fonws
  • faint o Dreth Incwm sydd wedi'i didynnu
  • unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd wedi'u didynnu
  • unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr, os yw'n berthnasol
  • eich cyflog mynd-adre, neu'r cyflog net yr ydych wedi'i gael

Yn ogystal â chael eich trethu ar eich cyflog, rydych yn cael eich trethu hefyd ar unrhyw fuddion a ddarperir gan eich cyflogwr, megis car cwmni, tanwydd, benthyciad llog isel neu yswiriant meddygol.

Efallai hefyd y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar dips yr ydych yn eu cael fel rhan o'ch swydd.

Treth Incwm

Treth Incwm yw eich cyfraniad at yr hyn a werir gan y llywodraeth ar bethau megis trafnidiaeth, iechyd ac addysg. Mae'r swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill.

Mae Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn rhoi cod treth i chi, sydd i'w weld ar eich slip cyflog. Mae'ch cyflogwr yn defnyddio'ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i'w thynnu o'ch cyflog drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen i chi - eich tystysgrif diwedd blwyddyn P60 - sy'n dangos cyfanswm eich cyflog gros am y flwyddyn a faint o dreth a dalwyd gennych.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gronni eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill. Mae'r swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill. Mae'ch cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o'ch cyflog drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Mae Cyllid a Thollau EM yn cadw golwg ar eich cyfraniadau drwy eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae hwn yn debyg i rif cyfrif ac yn unigryw i chi.

Faint allwch chi ei ennill heb dalu treth ac Yswiriant Gwladol?

Treth Incwm

Gall pawb ennill swm penodol bob blwyddyn heb dalu dim Treth Incwm. Dyma yw eich Lwfans Personol. Y Lwfans Personol ar gyfer 2009-2010 yw £6,475. Gall rhai pobl ennill ychydig mwy cyn dechrau talu treth, er enghraifft, os ydynt dros 65.

Yswiriant Gwladol

Gallwch ennill hyd at £110 yr wythnos (2009-2010) cyn i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir hyn yn 'drothwy sylfaenol'.

Cyn belled â'ch bod yn ennill mwy na £95 yr wythnos (2009-2010), gallwch barhau i gronni eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau eraill. Y 'terfyn enillion isaf' yw’r enw a roddir ar hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU